
I'r gad
de Arwel Vittle
Llyfr lluniau a geiriau sy'n olrhain hanes protest yng Nghymru hyd heddiw. Am y tro cyntaf, mae Arwel Vittle wedi casglu ynghyd y goreuon o luniau protest dros y degawdau. Mae'r casgliad gweledol trawiadol yn weithiau gan rai o ffotograffwyr gorau Cymru gan gynnwys Geoff Jones, Ray Daniel, Jeff Morgan a Marian Delyth. Yn ogystal a r cyfle i ail-fyw rhai o brotestiadau mwyaf nodedig Cymru trwy lygaid camera y bobl oedd yno, fe fydd y cyffro a r gwrthdaro yn cael ei ailgreu trwy eiriau rhai o enwau mwyaf adnabyddus byd chwyldro yng Nghymru gan gynnwys Meic Stephens, Angharad Tomos, Tony Schiavone ac Emyr Llew. Llyfr anrheg hyfryd fydd yn elwa ar lwyddiant llyfrau llun a geiriau diweddar y Lolfa gan gynnwys Gair yn ei Le, Bois y Loris a Chartrefi Cefn Gwlad Cymru. Mae n cynnwys cyfle i gofio gwrthwynebu arwisgo Caernarfon 1969, ymgyrch arwyddion ffyrdd a r Sianel Gymraeg a chyfraniad Lewis Valentine, Dafydd Iwan a Hywel Teifi.
Materias
Ediciones (1)
- I'r gad (2013)
Y Lolfa · wel · ISBN 9781847718150


